The Big 6 Nations Kick Off with Gabby & Gareth
5 x 30 I BBC ONE CYMRU, NOS WENER 7Y.H.
Gabby Logan a Gareth Thomas yw’r ddau sydd wrth y llyw yn y sioe stiwdio wythnosol hon sy’n cynnwys comedi, gwesteion enwog, stunts a cherddoriaeth fyw sy’n dathlu awyrgylch carnifal Twrnament Rygbi'r 6 Gwlad.
Fe wnaeth y gwesteion stiwdio, oedd yn cynnwys Ardal O'Hanlon, Sam Warburton a band The Script baratoi cefnogwyr Cymru ar gyfer y penwythnosau mawr gyda heriau adloniant megis ceisio cael Record Byd Guinness ar gyfer Dal Pêl Rygbi o uchder, ffilmiau ysbrydoledig sy’n rhoi cipolwg i ni o’r hyn sy’n digwydd mewn cymunedau Rygbi ar hyd a lled y wlad yn ogystal â chomedi wythnosol wedi'i sgriptio gan Lloyd Langford, sy’n datgelu ei argraffiadau crafog a sylwgar ar y chwaraewyr a'r timau.
The Clare Balding Show
12 x 60 I BT SPORT, NOS IAU 8Y.H.
Sioe sgwrsio adloniadol lle mae newyddiadurwraig gwobrwyedig BAFTA, Clare Balding, yn siarad â'r enwau mwyaf yn y byd chwaraeon, megis Rio Ferdinand, Bernie Ecclestone, Frank Lampard, Johanna Konta a Harry Redknapp.
Wedi'i ffilmio o stiwdios BT Sport o flaen cynulleidfa fyw, mae Clare yn cyfuno newyddiaduraeth pryfoclyd a hwyliog a dyfeisiau adloniant a gynlluniwyd i roi cipolwg prin i wylwyr i fywydau ffigyrau chwaraeon gorau Prydain. Gyda fformat newydd ar gyfer 2017, gan gynnwys dylunio stiwdio newydd, graffeg a mwy o ffocws ar greu cynnwys ar gyfer llwyfannau llinellol a digidol BT.
Mike Meets
6 x 12 MINS I RED BULL TV
Yn ogystal â chynnwys cymorth ychwanegol byr ar gyfer llwyfannau cymdeithasol
Chwe ffilm ddogfen ar chwech o yrwyr Rali mwya'r byd gyda Mike Chen, prif gyflwynydd Pencampwriaethau Rali'r Byd i Red Bull TV.
O'r gorau ym Mhrydain- Elfyn Evans ,i’r seren Gwyddelig Craig Breen, mae'r gyfres yn datgelu uchelfannau a’r iselfannau’r gyrwyr mewn taith newyddiadurol a luniwyd gyda chynhesrwydd ac hiwmor. Wedi'i ffilmio ar leoliad o amgylch Ewrop, mae gan y ffilmiau hynod greadigol hyn fynediad anhygoel i fywydau preifat y gyrwyr gan roi’r cyfle euraid ac unigryw i gynulleidfa teledu Red Bull weld sut fywydau sydd gan yrrwr Rali proffesiynol o'r radd flaenaf.
The Breakdown
8 x 4 MINS I RED BULL TV
YN OGYSTAL Â CHYNNWYS CYMORTH YCHWANEGOL BYR AR GYFER LLWYFANNAU CYMDEITHASOL
Mae 'The Breakdown’ yn gyfres o ffilmiau o safon uchel sy'n arddangos yr amrywiaeth o symudiadau dawnsio sydd yn repertoire criw Breakdance mwyaf blaenllaw yn y byd sef The Red Bull BC One All-Stars.
Dechreuodd Breaking, neu B-Boy, yn strydoedd Dinas Efrog Newydd yn gynnar yn y 1980au, ac ers hynny mae wedi codi i fod yn ffenomen ledled y byd gyda dawnswyr nawr yn cystadlu mewn digwyddiadau byw enfawr yn fyd-eang. Un o'r digwyddiadau mwyaf enwog yw BC One, sef cystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei darlledu yn fyw ar Red Bull TV.
Fe wnaeth y gyfres o ffilmiau, pob un dan arweiniad dawnsiwr o ‘Red Bull BC One All Stars’, ddaadansoddi'r symudiadau, yr arddull, yr ystyr a'r teimlad ar gyfer cynulleidfa ieuenctid eang a byd-eang.
Nass
CYNHYRCHIAD GWYLIAU BYW A FFILMIAU BYRION CYFROL UCHEL
Gŵyl o ddiwylliant a chreadigrwydd stryd a gynhelir yn flynyddol ger Bryste o flaen cynulleidfa o 20,000 yw NASS sy’n cynnwys cystadlaethau Sglefrfyrddio a BMX ac artistiaid cerddorol mawr.
Mae Cynyrchiadau Nimble wedi creu, cynhyrchu a chyflwyno gwasanaethau ffrydio byw ac uchafbwyntiau digidol ar ffurf fer o'r Chwaraeon mwyaf deniadol i’r ifanc ac fe'u gwyliwyd gan fwy nag 8 miliwn o bobl ar sianeli cymdeithasol gan gynnwys Unilad a Facebook.
Simple Session
CYNHYRCHIAD DIGWYDDIAD BYW I RED BULL TV
‘Simple Session’ yw un o gystadlaethau Sglefrfyrddio a BMX proffesiynol mwya'r byd a gynhelir yn Tallinn, Estonia. Gyda'r Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020, bob blwyddyn, mae'r athletwyr Action Sport rhyngwladol gorau yn ymgasglu i gystadlu yn Stadiwm Saku lle mae Cynhyrchiadau Nimble, OrchestraBlue a Red Bull Media House yn cydweithio i gynhyrchu darllediad byw gyda chyflwyniad aml-ddimensiwn, cynnwys ffurf fer a VR byw 360 ar gyfer cyd-ddarllediad ar Red Bull TV, Facebook a You Tube.
RED BULL ROLLERCOASTER
CYNHYRCHIAD DIGWYDDIAD BYW I RED BULL TV
Mae Red Bull Rollercoaster yn gystadleuaeth Sglefrfyrddio rhyngwladol unigryw a gynhelir yn yr ŵyl Action Sport mawr Munich Mash, yr Almaen. Mae athletwyr gorau'r byd yn cystadlu ar gwrs 300 metr, lawr lethr gyda rhwystrau o ddisgyblaethau stryd, fert, parc a phowlen. Cydweithiodd Nimble â Red Bull Media House ar yr ochr olygyddol a chyflenwi staff i gynhyrchu sioeau byw 3 x 2 awr, a ddarlledwyd ar y cyd â Teledu Red Bull, Facebook a You Tube gyda'r cyflwynwyr Ed Leigh, Chris Pastras, Corey Bohan, Nora Vasconcellos, Tina Dixon a Dave O'Caoimh.