Dylan Wyn Davies

CYFARWYDDWR CREADIGOL

Cyfarwyddwr Creadigol a Chyfarwyddwr Byw gwobrwyedig (RTS, Gold Cannes Lions, Broadcast Digital, Academi BAFTA Cymru), gyda hanes o arwain a chyflwyno digwyddiadau byd-eang ar raddfa fawr a chynnwys Chwaraeon Adloniant ar gyfer darlledu a digidol.

AFel Cyfarwyddwr Creadigol gyda’r cwmni Cymreig, Boomerang, tyfodd Dylan yr adran Chwaraeon a Digwyddiadau o fod yn arbenigwr chwaraeon eithafol bychan i fod yn arweinydd Pan-Ewropeaidd mewn digwyddiadau Chwaraeon-Adloniant a chynnwys gwreiddiol.

THE CLARE BALDING SHOW
Dylan oedd y grym creadigol y tu ôl i Sioe Clare Balding ar gyfer BBC2 / BT Sport mewn cytundeb hawliau a rennir heb ei debyg rhwng y ddau ddarlledwr ac arweiniodd ar y cynhyrchiad rhwng 2013 a 2017.

CHANNEL 4 PARALYMPICS
Mae wedi creu a chyflwyno nifer o brosiectau mawr ar gyfer darpariaeth Paralympaidd ‘Channel 4’, gan gynnwys Gemau Pen-blwydd 2016, Pencampwriaethau Nofio ac Athletau Ewrop IPC 2016, Pencampwriaethau Athletau Byd-eang IPC 2015 yn ogystal â'r cynnwys ar ffurf fer ar gyfer partneriaid nawdd ‘Channel 4’, gan gynnwys Allianz a BT.

GT ACADEMY
Roedd Dylan yn allweddol wrth godi a thyfu yr Academi GT â ennillodd wobr aur y Gold Cannes Lions, Rhaglen a Arianwyd gan un o’r ymgyrchoedd hysbysebu mwyaf yn y byd, ac efo oedd hefyd yn gyfrifol am yr ochr gynhyrchu a chreadigol ar gyfer y brand aml-lwyfan hon am 7 mlynedd. Mae arbenigedd AFP helaeth Dylan yn golygu ei fod wedi cael cyflëon i gynhyrchu cynhyrchiadau AFP safonnol ac uchel eu cyllideb ar gyfer brandiau fel Bacardi, Huawei, DHL, a Sony mewn cynnwys aml-lwyfan, aml-genre.

RED BULL TV
Mae cynhyrchiadau cymhleth arall yn cynnwys rhaglenni byw mawr ar gyfer Red Bull TV, gan gynnwys Red Bull Air Race, Digwyddiad BMX & Sglefrfyrddio mwyaf Ewrop - Simple Sesssion a rownd derfynol Taith Freeride, Sgïo ac Eirafyrddio y Byd; Verbier Xtreme.

LIVE AWARD SHOWS
Mae Dylan hefyd wedi dyfeisio a chyflwyno sioeau gwobrau byw ar raddfa fawr, gan gynnwys Gwobrau Pêl-droed Facebook a Gwobrau ‘Action Women of the Year’ i BT.

Gareth Rees

RHEOLWR GYFARWYDDWR

Mae Gareth wedi gweithio yn y diwydiant teledu Cymreig am dros 20 o flynyddoedd. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Boomerang tyfodd Gareth y cwmni i fod yn un o brif gwmnïau Cymru yn cynhyrchu ystod o gyfresi llwyddiannus, gan gynnwys ‘Posh Pawn’ ar C4, ‘The Clare Balding Show’ ar y BBC a’r sioe arloesol ‘GT Academy’.

Roedd Gareth yn un o’r tîm a fu’n gyfrifol am lansio’r busnes Boomerang + PLC ar AIM yn 2007. Mae’n deall y sialensau o reoli a thyfu cwmni annibynnol ac arwain tîm creadigol, cryf.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr Nimble Dragon dros y flwyddyn diwethaf mae Gareth wedi sefydlu’r cwmni fel un o’r prif leisiau ar y sîn creadigol Cymreig. Mae gan y cwmni gysylltiadau cadarn gyda darlledwyr lleol a rhwydwaith, ynghyd â chychwyniad busnes cryf.

Katy Cartwright

PENNAETH CYNHYRCHU

Mae gan Katy brofiad helaeth o ugain mlynedd o reoli cynhyrchiadau amrywiol gan gynnwys rhai ffeithiol, adloniant, chwaraeon a drama. Cyn ymuno â Nimble Dragon roedd Katy yn rheolwr cynhyrchu yn Blink Films, a chyn hynny yn Boomerang, yn rhedeg nifer fawr o gynhyrchiadau llwyddiannus gan gynnwys 'Posh Pawn' ac 'Extreme Cake Makers' i Channel 4. Dechreuodd Katy ei gyrfa yn y BBC, yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni a chyfresi, gan gynnwys 'DIY SOS': 'The Big Build' a 'Doctor Who Confidential'.

Rob Harper

CYFARWYDDWR CYLLID

Dechreuodd Rob ei yrfa yn y sector archwilio a chyfrifeg lle cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig cyn ymuno â Channel 4 yn 2001.Ymunodd Rob â Channel 4 yn 2001.

Fel Cyfarwyddwr Cyllid 4 Rights, busnes masnachol Channel 4, am dros ddeng mlynedd bu Rob yn rheoli un o gronfeydd buddsoddi annibynnol rhaglenni mwyaf y DU, gan fuddsoddi yn rhai o raglenni a chyfresi mwyaf eiconig Channel 4, gan gynnwys 'Shackleton', 'Shameless', 'Green Wing', 'The Joe Simpson films', 'The Beckoning Silence' a 'Touching the Void'.

Yn 2011 fe wnaeth ddatblygu model ariannu unigryw ar gyfer y ffilm hynod lwyddiannus, 'The Inbetweeners Movie', a aeth ymlaen i fod yn un o ffilmiau comedi mwyaf llwyddiannus y DU.

Yn fwy diweddar mae Rob wedi canolbwyntio ar apwyntiadau Cyfarwyddwyr Cyllid mewn cwmnïau entrepreneuraidd/cychwynnol o fewn y diwydiannau creadigol. Mae'r rhain wedi cynnwys nifer o gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm lle mae wedi sefydlu a rheoli adrannau cyllid ac wedi codi cyllid buddsoddi i gefnogi twf busnes.

Dylan Thomas

YMCHWILYDD A GOLYGYDD

Mae Dylan Thomas yn aml-dalentog ac yn Ymchwilydd a Golygydd yn Cynhyrchiadau Nimble ac mae’n arbenigo mewn cynyrchiadau llinellol a digidol. Mae Dylan wedi gweithio ar draws nifer o raglenni a digwyddiadau llwyddiannus, gan gynnwys cynhyrchu cynnwys byr ar gyfer Undeb Rygbi Cymru, Cwpan Swalec a Dydd y Farn ac yn fwy diweddar, Sioe Clare Balding, Red Bull: BC One a ‘The Big Six Nations Kick Off’ i BBC One Wales.